Mae 64 o bobol wedi cael eu lladd mewn tân mewn canolfan siopa yn Siberia yn Rwsia.

Cafodd y tân yn ninas Kemerovo, ei ddiffodd fore ddydd Llun (Mawrth 26), ac yn ôl awdurdodau’r wlad mae chwech  o bobol ar goll o hyd. Mae’n debyg bod nifer o blant ymhlith y meirw.

Mae’n debyg bod neuadd sinema’r ganolfan bellach wedi dymchwel.

Cafodd canolfan siopa Winter Cherry ei hagor yn 2013; ac mae’n gartref i sw bychan, man chwarae i blant a safle bowlio.