Mae ymdrechion ar y gweill yn Ne Corea i achub 192 o bobol ar ôl i fferi daro yn erbyn creigiau oddi ar yr arfordir yn ne-orllewin y wlad.

Mae timau achub yn obeithiol o allu achub pawb gan nad yw’r fferi’n ymddangos fel pe bai’n suddo ar ôl y gwrthdrawiad.

Mae’r fferi’n agos i safle gwrthdrawiad arall a laddodd fwy na 300 o bobol yn 2014 – digwyddiad a arweiniodd at lawer iawn o gwestiynau am safonau diogelwch y môr.