Mae capten tîm criced Awstralia, Steve Smith wedi’i wahardd am un gêm ac wedi colli ei dâl i gyd, a’i gyd-chwaraewr Cameron Bancroft wedi cael dirwy o 75% o’i dâl am un gêm am eu rhan mewn cynllwyn i ymyrryd â chyflwr y bêl mewn gêm brawf yn erbyn De Affrica.

Cyfaddefodd y capten ei fod e a’i reolwyr wedi dyfeisio’r cynllwyn ac wedi gofyn i Bancroft ei roi ar waith drwy roi tâp a llwch ar y bêl.

Fydd Steve Smith ddim yn cael chwarae yng ngêm ola’r gyfres.

Cafodd Cameron Bancroft dri phwynt cosb – mae casglu pedwar pwynt dros gyfnod o ddwy flynedd yn arwain at waharddiad am un gêm.

Doedd gan y naill chwaraewr na’r llall bwyntiau cosb cyn y digwyddiad hwn.

Mae capten ac is-gapten tîm criced Awstralia wedi camu o’r neilltu am y tro yn dilyn cyhuddiadau bod y chwaraewr Cameron Bancroft wedi ymyrryd â chyflwr y bêl yn ystod gêm yn Cape Town.

Mae Awstralia’n herio De Affrica mewn cyfres o gemau prawf ar hyn o bryd.

Cefndir

Mae Steve Smith wedi cyfaddef fod y tîm wedi cynllwynio i newid cyflwr y bêl ymlaen llaw, sydd wedi arwain at alwadau ar iddo gael ei ddiswyddo.

Cafodd Cameron Bancroft ei ffilmio’n gosod darn o dâp dros y bêl er mwn rhwbio llwch arni.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Criced Awstralia eu bod yn disgwyl “safonau ymddygiad penodol” ac nad yw’r chwaraewyr dan sylw wedi cyrraedd y safonau hynny. Byddai’r mater yn cael sylw “difrifol a brys”, meddai cyn yr ymchwiliad.

Fe fydd Tim Paine yn gapten am weddill y gêm hon, a’r ddau chwaraewr yn cael parhau i chwarae tan ddiwedd y gêm.

Mae nifer o ffigurau amlwg yn y byd criced – a Phrif Weinidog Awstralia, Malcolm Turnbull wedi mynegi eu siom yn y ddau chwaraewr.