Mae miloedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio yng Nghroatia yn erbyn yr hyn maen nhw’n ei ystyried yn gamau i gyfreithloni priodasau o’r un rhyw a hawliau i bobol drawsryw.

Canodd y protestwyr ganeuon gwladgarol a gwrth-lywodraeth ar ôl iddyn nhw benderfynu’r wythnos ddiwethaf i gymeradwyo confensiwn Istanbul a gafodd ei fabwysiadu gan Gyngor Ewrop yn 2011.

Mae’r wrthblaid ac aelodau’r Eglwys Gatholig yn y wlad, oedd wedi trefnu’r brotest, yn dweud eu bod nhw’n cefnogi mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a thrais yn y cartref, ond yn gwrthwynebu cyflwyno “trydydd rhyw” yn y gymdeithas.

Mae’r Eglwys Gatholig wedi wfftio unrhyw aelodau sy’n cefnogi Confensiwn Istanbul.