Mae cwmni awyr o Bortiwgal wedi ymddiheuro ar ôl i fwy na 100 o deithwyr orfod aros ym maes awyr Stuttgart cyn cael teithio am fod cyd-beilot wedi meddwi.

Fe fu’n rhaid gohirio taith un o awyrennau TAP Air Portugal o Lisbon neithiwr ar ôl i aelod o staff sylwi bod y cyd-beilot yn cael trafferth cerdded a’i fod yn drewi o alcohol.

Cafodd yr awdurdodau wybod am y digwyddiad, ac fe gafodd yr awyren ei chadw ar y ddaear. Dydy hi ddim yn glir a gafodd y cyd-beilot ei arestio.

Fe fu’n rhaid i 106 o deithwyr aros mewn gwesty dros nos, a fyddan nhw ddim yn gallu teithio tan ddydd Llun.