Mae dau bapur $1,000 o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi cael eu gwerthu mewn ocsiwn am £678,000 yr un.

Roedd y ddau a gafodd eu gwerthu yn yr Unol Daleithiau yn dyddio o’r flwyddyn 1863.

Cawson nhw eu gwerthu ynghyd â phapurau prin eraill gan Stack’s Bowers yn Baltimore – a’r holl bapurau gyda’i gilydd wedi’u gwerthu am gyfanswm o  7.9 miliwn o ddoleri.

Bydd ail gasgliad yn cael ei werthu mewn ocsiwn yn Philadelphia ym mis Awst.