Mae barnwr Goruchaf Lys yn Sbaen wedi cyhuddo 13 o wleidyddion Catalwnia, gan gynnwys cyn-lywydd rhanbarthol Carles Puigdemont, o wrthryfela trwy eu hymgais i ddatgan annibyniaeth o Sbaen.

Dan gyfraith Sbaen mae gwrthryfela yn gallu golygu cosb o hyd at 30 mlynedd yn y carchar.

Mewn dyfarniad llys a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd y Barnwr Llarena y bydd 25 o Gatalaniaid yn cael eu rhoi ar brawf am wrthryfela, ymosod neu anufudd-dod.

Ymhlith y rhai eraill a gyhuddwyd o wrthryfel roedd cyn-Is-lywydd Catalwnia Oriol Junqueras, sydd eisoes yn y ddalfa; saith aelod arall a ddisodlwyd o lywodraeth Gatalanaidd; a chyn-siaradwr Senedd Catalwnia, Carme Forcadell.