Mae Llywodraeth Sbaen wedi gwrthod ymgais yn senedd Catalwnia i ethol gwleidydd cenedlaetholgar blaenllaw yn arlywydd.

Roedd aelodau seneddol wedi gobeithio gosod Jordi Turull yn y rôl, sef gwleidydd sydd wedi bod ynghlwm ag ymgyrch annibyniaeth Catalwnia. Mae yn un o grŵp o bobol a all gael ei gyhuddo o wrthryfela yn sgil refferendwm annibyniaeth y llynedd.

Mae Madrid eisoes wedi dweud y byddan nhw’n rhwystro unrhyw ymgeisydd sy’n wynebu prosesau cyfreithiol, rhag dod yn arlywydd ar Gatalwnia, ac mae’r llywodraeth ganolog ym Madrid wedi cyhuddo senedd Catalwnia o geisio “aildanio’r awch am annibyniaeth” trwy ethol Jordi Turull.

Jordi Turull yw’r trydydd ymgeisydd sydd wedi’i gynnig gan wleidyddion cenedlaetholgar ers refferendwm Rhagfyr 2017.