Mae arlywydd Lithwania yn dweud ei bod hi’n ystyried diarddel diplomyddion Rwsia o’r wlad, yn sgil yr honiadau am wenwyno cyn-ysbïwr gyda nwy nerfol yn Salisbury.

Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi hel 23 o ddiplomyddion yn ol adref, ac mae’n beio Rwsia am ddefnyddio’r cemegyn Novichok i wenwyno Sergei Skripal a’i ferch, Yulia, ar Fawrth 4.

“Rydyn ni’n ystyried defnyddio yr un mesurau yn erbyn diplomyddion Rwsia,” meddai Dalia Grybauskaite, arlywydd Lithwania, mewn uwch gynhadledd ym Mrwsel heddiw.

Mae hi wedi datgan ei chefnogaeth lwyr i Theresa May. Mae Lithwania hefyd yn rhannu ffin gyda Rwsia.