Mae llywodraeth Rwsia yn dweud fod sylwadau diweddaraf Gweinidog Tramor Prydain lle mae o’n cymharu Cwpan y Byd 2018 i’r Gemau Olympaidd a gafodd eu cynnal yn yr Almaen Natsïaidd, yn “gwbwl warthus”.

Mae’r ymateb chwyrn yn dangos pa mor ddwfn ydi’r tensiynau ar hyn o bryd rhwng Mosgow a Llundain, yn dilyn yr achos o wenwyno cyn-ysbïwr yn Salisbury gyda nwy nerfol. Mae llywodraeth Prydain wedi rhoi’r bai ar Rwsia am yr ymosodiad, ond maen nhw’n gwadu hynny.

Ddoe, fe gytunodd Boris Johnson â gwleidydd Llafur a oedd wedi cymharu Cwpan y Byd Rwsia eleni i’r modd y defnyddiodd Adolf Hitler y Gemau Olympaidd yn 1936 i ledaenu propaganda.

Yn ol llefarydd ar ran arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, roedd y sylw’n “gwbwl warthus” ac yn “anheilwng o unrhyw weinidog tramor yn unrhyw wlad trwy’r byd”.

Mae geiriau Boris Johnson, meddai, yn “sarhaus ac annerbyniol”.