Mae protestwraig yn ei harddegau wedi cael ei dedfrydu i wyth mis o garchar, am roi slap ac am gicio dau o filwyr Israel y tu allan i’w chartref yn y Lan Orllewinol.

Fe ddaeth y ddedfryd ar ddiwedd achos sydd wedi denu cryn sylw yn Israel, ac sydd wedi gwneud Ahed Tamimi, y ferch 17 oed, yn arwres ar hyd a lled y byd.

Mae ei chyfreithwraig yn dweud i Ahed Tamimi dderbyn y dyfarniad fel rhan o fargen gyda’r erlynwyr a fyddai’n ei galluogi i osgoi cyhuddiadau mwy difrifol yn ei herbyn.

Dan delerau’r fargen, mae disgwyl iddi gael ei rhyddhau o’r carchar dros yr haf. Mae disgwyl iddi hefyd dalu dirwy sy’n cyfateb i tua £990.

Mae Ahed Tamimi wedi galw’r drefn gyfreithiol yn “ffars”, gan gyhuddo’r awdurdodau o geisio “perswadio pobol ifanc Palesteinaidd eraill i beidio â sefyll i fyny yn erbyn Israel”.