Mae hofrennydd yn cario ymwelwyr o’r Unol Daleithiau wedi plymio i’r ddaear yn ardal y Great Barrier Reef yn Awstralia, gan ladd dau o’r teithwyr ar ei bwrdd, ac anafu dau arall.

Fe lwyddodd y peilot i dynnu un teithiwr allan o gragen yr hofrennydd, ond doedd hi ddim yn bosib cadw’r wraig 65 oed yn fyw. Bu farw dyn 79 oed hefyd.

Mae dyn 34 oed a dynes 33 oed wedi’u cludo i’r ysbyty ar dir mawr Awstralia. Roedd y pedwar ymwelydd yn nabod ei gilydd.

Fe ddaeth yr hofrennydd Eurocopter EC120 Colibri i lawr rhyw 40 milltir i’r gogledd o Ynysoedd Whitsunday, ger pontwn lle mae yna siamberi tanddaear ar gyfer gweld y coral.