Mae arweinwyr Affrica wedi arwyddo’r hyn sy’n cael ei alw y cytundeb masnach rydd mwyaf ers creu Sefydliad Masnach y Byd.

Mae’r cytundeb yn creu marchnad o 1.2 biliwn o bobol yng ngwledydd y cyfandir, gyda GDP (cynnyrch domestig gros) rhyngddynt o dros $3.4trn.

Un o brif nodau’r cytundeb newydd yw hybu masnach oddi fewn i Affrica a dibynnu llai ar brisiau anwadal nwyddau sy’n cael eu hallforio.

Mae’r cytundeb wedi’i lofnodi gan 44 o aelodau’r Undeb Affricanaidd, sy’n cynnwys cyfanswm o 55 o aelodau. Fe fydd y cytundeb yn dod i rym erbyn diwedd 2018.