Gallai peth o’r daioni sydd mewn betys fod yn ddefnyddiol ar gyfer datblygu triniaethau newydd ar gyfer clefyd Alzheimer, yn ôl yr hyn y mae ymchwil newydd yn ei awgrymu.

Yn ystod profion, fe ddaeth hi’n glir fod betanin, sy’n rhoi’r lliw cryf i fetys, yn atal newidiadau cemegol sy’n gysylltiedig â niwronau’n marw.

Mae gwyddonwyr yn rhagweld y gallai cyffuriau gael eu datblygu yn seiliedig ar yr egwyddor hon.

“Mae ein data yn awgrymu y gallai betanin fod yn effeithiol iawn yn y modd y mae’n gallu atal adweithiau cemegol yn yr ymennydd sy’n gysylltiedig â datblygiad clefyd Alzheimer,” meddai’r Athro Li-June Ming, o Brifysgol De Fflorida, sy’n arwain yr ymchwil.

“Dyma’r cam cyntaf, ond gobeithio y bydd ein canfyddiadau yn annog gwyddonwyr eraill i edrych am strwythurau tebyg i betanin y gellid eu defnyddio i gyfuno cyffuriau a allai wneud bywyd ychydig yn haws i’r rhai sy’n dioddef o’r clefyd hwn.”