Mae gwryw y rhinoserws gogleddol gwyn olaf y byd, wedi marw.

Roedd y creadur yn 45 oed ac un byw ar dir gwarchodfan Ol Pejeta yn Cenia.

Fe gafodd ei roi i gusgu ar ôl i’w gyflwr “ddirywio’n sylweddol” o ganlyniad i “gymhlethdodau” yn gysylltiedig â henaint.

Erbyn y diwedd, nid oedd yn gallu sefyll ar ei draed. Roedd ei gyhyrau a’i esgyrn wedi gwanio, ac roedd ei groen yn friwiau drosto. Roedd ganddo hefyd glwyf ar un o’i goesau ôl.

Roedd y rhino wedi bod yn rhan o ymdrech uchelgeisiol i achub y rhywogaeth rhag drfod o’r tir, ar ôl degawdau o botsio.

Mae merch a wyres i’r gwryw yn dal yn fyw.