Heddlu’n ymchwilio i’r acho

Mae dynes o’r Unol Daleithiau wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar sy’n llywio’i hun.

Cafodd ei tharo gan y cerbyd wrth gerdded mewn maestref yn Phoenix, Arizona, a bu farw o’i hanafiadau yn yr ysbyty.

Un o gerbydau Uber oedd y car, ac mae’n debyg bod y cwmni wedi treulio misoedd yn cynnal teithiau arbrawf yn Phoenix.

Mae’n debyg bod y cwmni yn cydweithio â’r heddlu wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad.