Mae tân ym mhrifddinas y Ffilipinas wedi lladd tri o bobol, ac mae mwy na 300 o bobol wedi’u gorfodi i adael gwesty.
Dydy hi ddim yn glir eto a oedd y tân ym Manila wedi cael ei gynnau yng nghasino’r gwesty neu ran o’r adeilad sy’n cael ei adnewyddu.
Mae nifer o bobol yn derbyn triniaeth am effeithiau’r mwg.
Roedd lle i gredu’n wreiddiol bod pedwar o bobol wedi marw, ond cafodd un ei achub ond mae’n dal mewn cyflwr difrifol.
Mae 19 o bobol yn dal ar goll. Mae dau swyddog diogelwch yn eu plith.