Fe fydd casgliad o ffigyrau clai yn Ieper (Ypres), gwlad Belg, yn dangos i ymwelwyr beth yn union ddigwyddodd yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dyma fydd ffordd llywodraeth Gwlad Belg o anrhydeddu’r milwyr a’r bobol gyffredin a laddwyd yno rhwng 1914 ac 1918. Fe fydd yr arddangosfa’n cael ei dadorchuddio a’i hagor yn swyddogol ar Fawrth 30.

Mae pob un ffigwr o faint dwrn ac mae’r 600,000 eisoes wedi’u defnyddio i lenwi’r tir neb rhwng ffosydd yr Almaen a Phrydain ganrif yn ôl.

Ers 2014, mae myfyrwyr, ymwelwyr a phobol eraill wedi bod yn creu’r ffigyrau clai mewn gweithdai sydd wedi’u cynnal ledled y byd ac yn ninas Ieper.

Ar bob ffigwr, mae yna label ag enw’r sawl fu farw, a’r artist a’i crëodd, arno.