Mae awyren fechan yn cario pump o bobol wedi mynd ar ei phen i mewn i dŷ yn y Ffilipinas, gan ladd y rheiny oedd yn teithio arni a phedwar o bobol eraill ar y ddaear.

Roedd yr awyren Piper-23 Apache newydd godi o faes awyr yn nhrefn Plaridel yn nhalaith Bulacan cyn plymio i’r ddaear.

Fe achosodd y gwrthdrawiad dân yn y tŷ a gafodd ei daro gan yr awyren. Fe gafodd dau o bobol ar y ddaear eu lladd gan ddarnau o’r awyren.

Mae gweithwyr achub yn chwilio am o leia’ un person sydd ar goll yn rwbel y tŷ.