Mae beth bynnag bedwar o bobol yn sownd o dan rwbel, wedi i adeilad pedwar llawr ddymchwel ger prifddinas Cenia, Nairobi.

Mae pennaeth yr heddlu lleol yn dweud fod gweithiwr diogelwch a adawodd y safle toc wedi i’r cyfan ddod i lawr, yn dweud fod yna bedwar gwestai y tu mewn ar y pryd.

Mae byddin Cenia yn arwain y gwaith o chwilio am y pedwar.

Mae adeiladau’n cwympo wedi dod yn broblem yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag wyth o adeiladau’n dymchwel ac yn lladd 15 o bobol yno yn 2015.

Mae Awdurdod Adeiladu Cenedlaethol y wlad wedi adrodd fod 58% o dai dinas Nairobi yn ansad a ddim yn ffit i neb fyw ynddyn nhw.