Yn Florida, mae timau achub wedi dod o hyd i gyrff pedwar o bobl o dan y rwbel ar ôl i bont gerdded ddisgyn ar y ffordd oddi tani yn ne’r dalaith.

Cafodd naw o bobl eraill eu hanafu a’u cludo i ysbytai gerllaw, meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth tan yn Sir Miami-Dade.

Fe fydd y chwilio’n parhau am ragor o bobl yn ystod y nos, meddai  Dave Downey, ond pylu mae’r gobeithion o ddod o hyd i unrhyw un arall yn fyw.

Roedd y bont newydd gael ei hadeiladu ar gost o £10.19 miliwn er mwyn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr groesi’r ffordd brysur. Roedd yn cysylltu cymuned Sweetwater gyda Phrifysgol Ryngwladol Florida ac roedd disgwyl i’r bont agor yn 2019.

Mae llywodraethwr Florida wedi dweud y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i ddarganfod pam ei bod wedi dymchwel.