Mae confoi yn cario cymorth dyngarol i filoedd o bobol Syria sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi, wedi gwneud ei ffordd i mewn i ardal dwyrain Ghouta yn Syria.

Mae hynny wedi gallu digwydd oherwydd fod Rwsia wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi’r gorau i ymladd am gyfnod, er mwyn caniatau i’r cymorth gyrraedd y bobol.

Mae’r Groes Goch wedi cadarnhau fod yna 25 o lorïau yn y confoi sydd wedi’i drefnu gan y Cenhedloedd Unedig ac sy’n cynnwys nifer o fudiadau gwahanol.

Bwriad y confoi ydi anelu am Douma, y dre’ fwya’ a’r mwyaf poblog yn nwyrain Ghouta, jyst y tu allan i’r brifddinas, Damascus.