Mae prif weinidog Slofenia wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo wedi i oruchaf lys y wlad ddileu canlyniad refferendwm gynhaliwyd y llynedd, a gorchymyn cynnal ail bleidlais.

Mae Miro Cerar yn dweud ei fod eisoes wedi anfon ei lythyr ymddiswyddiad at y senedd, ac y bydd yn hysbysu’r Arlywydd o’i fwriad yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau, Mawrth 15).

Mae’n golygu y bydd etholiad seneddol y wlad, a oedd i gael ei gynnal ddechrau Mehefin, yn digwydd ychydig wythnosau’n gynt.

“Rydw i wedi gwneud y penderfyniad y byddai unrhyw wleidydd â hygrededd yn ei wneud yn yr un sefyllfa,” meddai Miro Cesar.

“Fe fyddwch chi, ddinasyddion Slofenia, yn cael y cyfle i ddewis rhwng yr hyn sy’n iawn a’r hyn sy’n anghyfiawn, a phenderfynu pwy sy’n haeddu eich cefnogaeth.”

Fe farnodd Goruchaf Lys Slofenia ddoe (dydd Mercher, Mawrth 14) bod cefnogaeth llywodraeth y wlad i’r prosiect rheilffordd yn ystod yr ymgyrch cyn y refferendwm yn rhy unochrog, ac y gallai fod wedi dylanwadu ar ganlyniad y bleidlais.

Fe roddodd canlyniad y refferendwm fis Medi diwethaf sêl bendith i gynllun y llywodraeth i adeiladu 16 milltir ychwanegol o reilffordd yn cysylltu porthladd Koper ar arfordir y Môr Adriatig gyda Divaca, sydd ar y ffin â’r Eidal.