Wrth i’r ffrae ddiplomyddol ddwysau tros ymosodiad Salisbury, mae’r Unol Daleithiau wedi datgan eu bod yn “sefyll ysgwydd ag ysgwydd” â Phrydain.

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd 23 diplomydd Rwsiaidd yn cael ei diarddel o wledydd Prydain, ac mae disgwyl i’r Kremlin ymateb i hyn maes o law.

“Rydym yn cefnogi penderfyniad y Deyrnas Unedig i ddiarddel diplomyddion,” meddai’r Tŷ Gwyn. “Mae’r ymateb yma yn un cyfiawn.

“Mae’r weithred ddiweddaraf yma gan Rwsia yn adlewyrchu patrwm ymddygiad y wlad, a’u tuedd i anwybyddu’r drefn ryngwladol – trefn sydd wedi’i seilio ar reolau.”

Y “weithred” sydd dan sylw  – ac sydd wrth wraidd y ffrae – yw ymgais honedig Rwsia i wenwyno’r cyn-ysbïwr, Sergei Skripal, a’i ferch, Yulia, ddechrau’r mis.

Rwsia

Daw’r sylwadau yn sgil cyfarfod Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, lle wnaeth Rwsia wadu bod yna gysylltiad rhyngddyn nhw a’r ymosodiad.

Yn ogystal â hynny, galwodd y wlad am “dystiolaeth go iawn” o’r nwy nerfol a gafodd ei ddefnyddio i wenwyno’r cyn-ysbïwr a’i ferch – deunydd sy’n cael ei gynhyrchu yn Rwsia.