Dydi’r gwenwyn a gafodd ei ddefnyddio i wenwyno ysbïwr Rwsiaidd ddim ar restr o gemegion sydd wedi’u gwahardd gan y Confensiwn Arfau Cemegol, yn ôl llywodraeth Rwsia.

Mae Sergei Skripal a’i ferch Yulia mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Salisbury (Caersallog) yn dilyn yr ymosodiad arnyn nhw – a’r gred yw fod y gwenwyn wedi tarddu o fwyty yn y ddinas.

Daeth y Confensiwn Arfau Cemegol i rym yn 1997, ac mae lle i gredu bod Novichok yn Rwsia ers dyddiau’r Undeb Sofietaidd – ond dydi’r honiad hwnnw ddim wedi’i gadarnhau gan Vladimir Uiba, pennaeth yr Asiantaeth Feddygol a Biolegol Ffederal.

Dywedodd un o weinidogion Rwsia, Denis Manturov yn gynharach heddiw fod holl arfau cemegol y wlad wedi cael eu dinistrio yn unol â’r Confensiwn.

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi cyhoeddi y bydd 23 o ddiplomyddion Rwsiaidd yn cael eu diarddel ac y bydd ei llywodraeth yn ymateb i’r ymosodiad drwy dorri cyswllt â Rwsia a chymryd camau eraill.