Mae arlywydd y Ffilipinas, Rodrigo Duterte, wedi cyhoeddi bod ei wlad yn rhoi’r gorau i’w haelodaeth o’r Llys Troseddol Rhyngwladol, lle mae ef ei hun wynebu’r posibilrwydd o orfod ateb cyhuddiadau o droseddau yn erbyn y ddynoliaeth.

Fe gyhoeddodd un o erlynwyr yr ICC y mis diwethaf ei bod yn agor ymchwiliad i honiadau o ladd anghyfreithlon yn yn sgil y modd y mae’r Ffilipinas wedi bod yn ceisio sathru ar y masnach gyffuriau.

Ond mae Rodrigo Duterte yn mynnu nad oes gan y llys rhyngwladol unrhyw ddylanwad cyfreithiol drosto ef.

Mae miloedd o bobol – y rhan fwyaf ohonyn nhw’n dlodion yn gaeth i gyffuriau – wedi cael eu lladd yn ystod ymgyrch Rodrigo Duterte, ond mae ef ei hun yn dadlau nad ydi’r marwolaethau hynny ddim byd tebyg i hil-laddiad.