Mae gwledydd Sgandinafia a gogledd Ewrop yn llwyddo i greu “amodau da ar gyfer bywydau da”, yn ôl pennaeth melin drafod o Ddenmarc.

Daw’r sylw yn sgil cyhoeddiad ‘Adroddiad Hapusrwydd y Byd’, sy’n rhestru gwledydd y byd yn ôl lefelau hapusrwydd ac ansawdd bywyd.

Eleni mae’r Ffindir wedi dod i’r brig, gyda Norwy, Denmarc, Gwlad yr Iâ a Sweden ymhlith y deg uchaf. Mae’r gwledydd yma wedi  ers yr adroddiad cyntaf yn 2012.

Yn ôl Meik Wiking, pennaeth y Sefydliad Ymchwil Hapusrwydd yn Copenhagen, mae’r gwledydd yn “dda o ran troi cyfoeth mewn i amodau llesol”.

Mae hefyd yn nodi bod y gwledydd yn talu “rhai o drethi uchaf y byd”, ond bod hyn yn arwain at well cyfleusterau cyhoeddus a rhyddid personol.

Y deg uchaf

1. Y Ffindir

2. Norwy

3. Denmarc

4. Gwlad yr Iâ

5. Y Swistir

6. Yr Iseldiroedd

7. Canada

8. Seland Newydd

9. Sweden

10. Awstralia