Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl iddo geisio tynnu heddwas o’i waith y tu allan i adeilad senedd Awstria yn Fienna.

Mae heddlu’r ddinas wedi cadarnhau fod hyn wedi digwydd toc wedi 8yb fore Mawrth (Mawrth 13) pan gafodd y dyn 26 oed o dras Afghan, ei ddwyn i’r ddalfa am geisio gafael yn yr heddwas a’i dynnu allan o’i gerbyd.

Fe ddefnyddiodd yr heddwas chwistrell pupur yn erbyn yr ymosodwr. Chafodd y plismon ddim ei anafu, a chafodd yr un arf ei ddefnyddio na’i ganfod ar berson yr ymosodwr.

Ond fe ddaw’r digwyddiad yn dilyn ymosodiad cyllell nos Sul ar filwr Awstraidd a oedd yn gwarchod cartref llysgennad Iran yn ninas Fienna.