Mae Donald Trump wedi rhwystro cwmni o Singapôr rhag prynu cwmni o’r Unol Daleithiau, gan ddadlau y byddai’r cam yn bygwth diogelwch America.

Roedd Broadcom wedi cynnig dêl gwerth £84.2bn i brynu Qualcomm, ac mewn datganiad mae’r cwmni wedi dweud eu bod yn “anghytuno’n gryf” â phenderfyniad yr Arlywydd.

Er ei chysylltiadau â Singapôr, mae pencadlys Broadcom yn San Francisco, ac mae bron pob un o’u cyfranddalwyr yn yr Unol Daleithiau. Technoleg yw maes y ddau gwmni.

Gyda gwledydd y byd yn cystadlu i sefydlu rhwydweithiau ffôn ‘5G’, mae’n ddigon posib mai pryderon cenedlaetholgar wnaeth ddylanwadu penderfyniad yr Arlywydd.

Ag ymdrechion Broadcom wedi eu rhwystro, bydd yn rhaid i Qualcomm fwrw ati yn awr i atal gwerth ei stoc rhag plymio.