Mae’r awdurdodau yn Nepal wedi cadarnhau bod 49 o bobol wedi marw a 22 wedi eu hanafu yn dilyn damwain awyren ger prifddinas y wlad ddoe (dydd Llun, Mawrth 12).

Roedd yr awyren wedi teithio o Dhaka ym Mangladesh, ac mi darodd â’r ddaear wrth geisio glanio ym Maes Awyr Kathmandu.

Cwmni US-Bangla Airlines sy’n berchen ar yr awyren, ac roedd 71 o bobol yn teithio arni, yn cynnwys pedwar aelod o staff.

Bellach mae’r teithwyr cafodd eu niweidio yn derbyn triniaeth mewn ysbytai yn Kathmandu, ac mae ymchwiliad ar y gweill i’r hyn a ddigwyddodd.

Recordiad

Mae recordiad o’r sgwrs rhwng peilot yr awyren a rheolwr traffig awyr y maes awyr yn taflu rhywfaint o oleuni tros y ddamwain.

Yn y clip, mae’n amlwg bod dryswch rhwng y ddau ynglŷn ag o ba gyfeiriad y dylai’r awyren lanio, gyda’r rheolwr, ar un adeg, yn galw ar y peilot i droi’r awyren.

Eiliadau wedi’r sgwrs bu’n rhaid galw diffoddwyr tân i’r llain lanio.