Mae cymdeithas y saethwyr yn America, yr NRA, yn cymryd camau cyfreithiol i geisio rhwystro talaith Florida rhag cyflwyno cyfyngiadau ar werthu drylliau.

Wythnosau ar ôl i’w plant gael eu llofruddio yn yr ysgol gan saethwyr, fe fu rhieni’n gwylio llywodraethwr Florida, Rick Scott, yn arwyddo bil ddoe i gyfyngu rhywfaint ar werthiant arfau. Roedd y mesurau hyn yn cynnwys codi isafswm oed prynu reifflau o 18 i 21 ymhlith rhai cyfyngiadau eraill.

Roedd y mesur yn cael ei groesawu gan rieni fel cam bach i’r cyfeiriad iawn.

O fewn oriau fodd bynnag, cafodd y mesur ei gollfarnu gan yr NRA, sy’n honni bod y bil “yn cosbi perchnogion drylliau sy’n ufuddhau i’r gyfraith am weithredoedd troseddol unigolyn gwallgof”.

Ymddangosodd Nicolás Cruz, y cyn-ddisgybl 19 oed sy’n cael ei gyhuddo o 17 o lofruddiaethau yn yr ysgol, gerbron barnwr ddoe. Dywed ei amddiffynnwr y byddai’n pledio’n euog pe câi sicrwydd na fyddai’n wynebu’r gosb eithaf, ond nid yw’r erlynwyr wedi penderfynu ar hyn eto.