Mae Barack a Michelle Obama mewn trafodaethau gyda Netflix i gynhyrchu cyfres deledu, yn ôl adroddiadau.

Mae’r cyn-Arlywydd a’i wraig wedi sôn am gynhyrchu rhaglenni sy’n tynnu sylw at straeon ysbrydoledig, dywedodd ffynonellau wrth y New York Times.

Yn ôl y papur, nid yw nifer y penodau a fformat y rhaglenni i’w penderfynu eto ac nid yw Barack Obama yn bwriadu defnyddio’r rhaglenni i ymateb i feirniadaeth yn uniongyrchol i’w olynydd, Donald Trump, neu wrthwynebwyr gwleidyddol eraill.

Pe bai’r Obamas yn sicrhau eu cyfres eu hunain, byddai’n rhoi llwyfan iddynt gyda chynulleidfa o bron i 118 miliwn o danysgrifwyr Netflix, dywedodd y papur.