Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, mae protestiadau yn cael eu cynnal gan ferched ledled Sbaen, wrth iddyn nhw godi eu llais yn erbyn yr anghyfartaledd rhwng cyflogau dynion a merched, a’r trais sy’n bodoli rhwng y rhywiau.

O dan y slogan, ‘Os y’n ni ar stop, mae’r byd ar stop’, mae pob math o ferched sy’n gweithio wedi cael eu hannog i ymuno â streic 24 awr sy’n cael ei gynnal gan sefydliad o’r enw ‘Comisiwn Mawrth 8’.

Mae’r sefydliad hwn yn blatfform i grwpiau ffeministaidd sy’n galw am gyfleoedd cyfartal i ferched sy’n gweithio.

Mae undebau’r CCOO a’r UGT, sef prif undebau’r gweithwyr yn Sbaen, hefyd wedi bod yn cynnal streiciau yn ystod y dydd, gan streicio am gyfnodau o ddwy awr yn y bore a’r prynhawn.

Yn Madrid, wedyn, mae disgwyl i brotest mawr gael ei chynnal rhyw ben o’r dydd.

Ond yn Barcelona, mae fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos sut mae protestwyr  sy’n rhwystro’r traffig wedi gorfod wynebu trais wrth heddlu’r ddinas.