Mae ymgeisydd arlywyddol yr wrthblaid yn Rwsia yn cynnal piced ar ei phen ei hun y prynhawn yma y tu allan i senedd y wlad.

Mae Ksenia Sobchak yn galw am ymddiswyddiad gwleidydd amlwg y mae nifer o newyddiadurwyr benywaidd yn ei gyhuddo o aflonyddu’n rhywiol arnyn nhw.

Mae’r honiadau yn erbyn Leonid Slutsky, pennaeth pwyllgor materion tramor y Duma, yn cynnwys aflonyddu a gwneud sylwadau annerbyniol.

Mae llefarydd y Senedd, Vyacheslav Volodin, wedi gwrthod ystyried y cwynion, gan ddweud y dylai’r newyddiadurwyr sy’n teimlo mewn peryg wrth ymdrin â’r Duma chwilio am waith arall. 

Mae Ksenia Sobchak yn protestio ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, ac mae’n dal cerdyn gyda’r geiriau “Dydyn ni ddim eich eisiau chi.”