Mae dyfeisiwr gerbron llys yn Nenmarc heddiw, wedi’i gyhuddo o lofruddio gohebydd o Sweden ar ei long danfor.
Honnir bod Peter Madsen wedi cywasgu ac arteithio’r newyddiadurwr Kim Wall cyn ei ladd, yn ystod taith ar y llong fis Awst y llynedd.
Mae Peter Madsen, 47, yn honni bod Kim Wall wedi marw yn ddamweiniol y tu mewn i’r llong danfor wrth iddo sefyll ar y dec yn ystod y daith.
Mae wedi cyfaddef taflu rhannau o’r corff i’r môr.
Mae’r erlyniad yn honni bod llofruddiaeth Kim Wall wedi’i chynllunio, a hynny oherwydd bod Peter Madsen wedi mynd ag offer anarferol gydag ef ar y llong.
Disgwylir i’r achos llys yn Copenhagen bara tan Ebrill 25.