Mae o leiaf 55 o bobol wedi’u lladd yn dilyn y daeargryn ym Mhapua Guinea Newydd yr wythnos ddiwethaf, ac mae disgwyl i’r nifer godi dros 100.

Fe fu ôl-gryniadau yn y wlad yn gynnar heddiw, ac fe ddywedodd llywodraethwr lleol fod y bobol leol yn teimlo effeithiau’r digwyddiad o hyd.

Yr ôl-gryniadau heddiw oedd y rhai mwyaf ers y daeargryn 7.5 yr wythnos ddiwethaf.

Mae ardal y daeargryn yn ddifreintiedig, ac mae ymchwiliad ar y gweill ond yn mynd rhagddo’n araf.

Mae’r awdurdodau’n ceisio blaenoriaethu’r bobol sydd â’r anghenion mwyaf wrth iddyn nhw gael eu trosglwyddo i’r ysbyty am driniaeth.

Mae lle i gredu bod rhwng 55 a 75 o farwolaethau wedi’u cadarnhau hyd yn hyn.

Mae saith miliwn o bobol yn byw ar ochr ddwyreiniol Papua Guinea Newydd, yr ardal lle mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau o’r math yma yn y Môr Tawel.