Mae arlywydd Sri Lanca wedi cyhoeddi stad o argyfwng, wedi ymosodiadau ar Fwslimiaid esgor ar gyfnod ansicr.

Dyw hi ddim yn glir eto sut y bydd y stad o argyfwng yn effeithio ar fywyd bob dydd trigolion yr ynys, lle mae tensiynau rhwng Mwslimaid a Bwdyddion wedi bod yn corddi dan yr wyneb ers rhai blynyddoedd.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae’r arlywydd yn dweud y bydd lluoedd diogelwch y wlad yn cael rhwydd hynt i “ddelio ag elfennau troseddol yn y gymdeithas, er mwyn dod â bywyd yn ôl i rhyw fath o normalrwydd”.

Fe ddaeth y cyhoeddiad wedi i griwiau mawr Bwdaidd sgubo trwy dref Kandy ddoe (dydd Llun) gan losgi beth bynnag 11 o siopau a chartrefi o eiddo Mwslimiaid.