Gyda llawer o’r pleidleisiau wedi’u cyfri, mae’n ymddangos mai’r pleidiau gwrth-Ewropeaidd yw enillwyr pennaf yr etholiad seneddol yn yr Eidal.
Plaid sy’n gwrthwynebu’r Undeb Ewropeaidd a’r sefydliad, Mudiad Pum Seren, sydd wedi ennill y rhan fwyaf o’r pleidleisiau, yn ôl rhagolygon.
Ac mae’r blaid hon ynghyd â phlaid sy’n rhannu’r un syniadau, y Gynghrair, mwy na thebyg wedi ennill hanner y bleidlais rhyngddyn nhw.
“Mae dymuniad pobol yr Eidal yn glir iawn yn fy marn i,” meddai swyddog bolisi o’r Gynghrair. “Mae lluoedd o blaid gweithredoedd Ewrop wedi’u lleihau.”
Yn ogystal â hyn, does dim arwydd bod unrhyw blaid wedi ennill mwyafrif, gan olygu bod senedd grog yn debygol.