Mae pedwar o bobol wedi’u lladd ar ôl i adeilad ddymchwel yng Ngwlad Pŵyl.
Mae 24 o bobol wedi’u hanafu yn dilyn y digwyddiad yn ninas Poznan.
Mae 24 o dimau o ddiffoddwyr tân yn chwilio’r rwbel ar hyn o bryd.
Roedd yr adeilad yn cynnwys 18 o fflatiau.
Mae lle i gredu bod plant ymhlith y rhai a gafodd eu hanafu.
Mae’n rhy gynnar, yn ôl yr awdurdodau, i ddweud beth oedd wedi achosi i’r adeiladu ddymchwel, ond mae’n bosib fod nwy wedi ffrwydro.