Mae miloedd o bobol wedi cymryd rhan mewn rali yn gwneud hwyl am ben y rhai sydd am weld Catalwnia’n mynd yn annibynnol.

Awgrym y rhai fu’n cymryd rhan yn y rali yn Barcelona oedd y dylid rhannu Catalwnia’n ddwy – un rhan ar gyfer y rhai sydd am adael Sbaen a rhan arall ar gyfer y rhai sydd am aros yn rhan o Sbaen. Byddai’r rhan ar gyfer y rhai sydd am aros yn rhan o Sbaen yn cynnwys dinasoedd Barcelona a Tarragona.

Roedd eu sloganau’n cynnwys “Nid Catalwnia mo Barcelona” – sy’n aralleirio arwyddair ymgyrchwyr tros annibyniaeth, sef “Nid Sbaen mo Catalwnia”.

Mae gan bleidiau o blaid annibyniaeth fwyafrif bach yn Senedd Catalwnia o hyd.