Mae David Lidington, dirprwy Theresa May i bob pwrpas, wedi beirniadu Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump am fygwth mynd i “ryfel masnachu” gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd yr Arlywydd ei fod yn ystyried gosod treth yn yr Unol Daleithiau ar geir sy’n cael eu cynhyrchu yn Ewrop os yw’r Undeb Ewropeaidd yn dial am gosbau masnachu y mae e’n ceisio eu cyflwyno ar fewnforio dur ac alwminiwm.

Mae Brwsel wedi addo y byddan nhw, yn eu tro, yn ymateb i unrhyw dreth, ond mae Donald Trump yn rhybuddio y gallai gyflwyno’r dreth yr wythnos hon.

Dywedodd David Lidington wrth raglen Sunday Politics y BBC nad yw’r Unol Daleithiau’n “dilyn trywydd y dylid ei gynghori wrth fygwth rhyfel masnachu”.

Ychwanegodd: “Bydd yn rhaid i ni weld beth sy’n digwydd, hynny yw roedd llawer o bryderon yn ddiweddar am rywbeth tebyg o safbwynt hedfan ac roedd awyrennau’n cael eu cynhyrchu’n rhannol gan Bombardier yn Belfast yng Ngogledd Iwerddon, a’r awdurdodau Americanaidd, ar ddiwed dydd, wedi rhoi’r gorau i hynny. Fe ddywedon nhw na, nid dyna’r ffordd y dylen ni fod yn mynd.”

 

Bygythiad

Rhybuddiodd na fyddai cynlluniau Donald Trump yn llwyddo.

“Fe geision ni ym Mhrydain yn y 60au a’r 70au i amddiffyn ein diwydiant ceir rhag cystadleuaeth. Wnaeth hynny ddim llwyddo, mewn gwirionedd, fe amddiffynnodd aneffeithiolrwydd, fe gollon ni ein holl farchnadoedd allforio oherwydd ein cystadleuwyr oedd yn fwy cystadleuol wrth fynd allan a llyncu’r cyfan, ac roedd rhaid i’r diwydiant ceir fynd trwy ailstrwythuro poenus iawn, iawn i sicrhau’r llwyddiant sydd ganddo nawr.”