Mae cyn-arweinydd Catalwnia wedi cyhoeddi’n annisgwyl ei fod yn tynnu ei gais yn ôl dros dro i adennill ei swydd fel llywydd y rhanbarth.

Mewn neges fideo o Frwsel, lle’r oedd wedi ffoi er mwyn osgoi cael ei arestio yn Sbaen, dywedodd Carles Puigdemont ei fod yn camu o’r neilltu fel bod senedd Catalwnia yn gallu dod o hyd i ymgeisydd arall i ffurfio llywodraeth ranbarthol a fydd yn gallu ymgyrchu dros annibyniaeth.

Roedd Carles Puigdemont wedi bod yn arwain yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gatalwnia ac ef yw’r ffefryn ymhlith pobl y rhanbarth sydd o blaid annibyniaeth, i arwain y llywodraeth ranbarthol.

Roedd wedi ffoi i Wlad Belg ar ol i Sbaen rwystro ymdrechion i gynnal refferendwm dros annibyniaeth yng Nghatalwnia.

Fe ddyfarnodd Llys Cyfansoddiadol Sbaen nad oedd yn gallu dychwelyd i’w swydd gan nad oedd yn Sbaen.

Mae llywodraeth Sbaen hefyd wedi dweud na fydd yn caniatáu unrhyw un sy’n wynebu camau cyfreithiol oherwydd yr ymgyrch dros annibyniaeth, i fod yn llywydd Catalwnia.