Mae 19 o bobol wedi’u hanafu mewn damwain bws yn Cambodia – yn eu plith, mae tri o bobol o wledydd Prydain.

Roedd y bws yn teithio i gyfeiriad y brifddinas, Phnom Penh, o Siem Reap – pan aeth benben gyda bws mini. Fe laddwyd gyrrwr y bws yn y digwyddiad.

Mae heddlu lleol wedi cadarnhau fod pedwar Almaenwr, tri Phrydeiniwr, tri o bobol o Wlad Thai, dau Ffrancwr, dau Israeliad, un dinesydd Tsieina a phedwar o bobol o Cambodia, wedi’u hanafu.

Mae dau o’r rheiny mewn cyflwr difrifol.

Mae nifer y damweiniau ffordd yn Cambodia ar gynnydd – mae hynny o ganlyniad i wella’r ffyrdd, ac oherwydd fod mwy o bobol bellach yn berchen ceir. Fe gafodd 1,500 o bobol eu lladd mewn damweiniau ffyrdd y llynedd.