Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid cadoediad 30 niwrnod yn Syria er mwyn rhoi cymorth dyngarol i drigolion y wlad.

Mae angen triniaeth feddygol hefyd ar bobol sydd wedi’u hanafu yn sgil y brwydro ffyrnig yn ddiweddar.

Cafodd cynnig ei addasu’n hwyr ar nos Wener gan Kuwait a Sweden mewn ymgais i sicrhau cefnogaeth Rwsia, gan ddileu’r gorchymyn i ddechrau’r cadoediad o fewn 72 awr. Roedd Rwsia’n dadlau bod cyflwyno cadoediad o fewn y cyfnod hwnnw’n “afrealistig”.

Dywedodd Llysgennad yr Unol Daleithiau ar drothwy’r cyfarfod i drafod y cadoediad: “Heddiw, fe gawn ni weld a oes gan Rwsia gydwybod.”

Does dim terfyn amser ar y cadoediad, ond mae gofyn i gerbydau dyngarol gael mynd i mewn i’r wlad ar unwaith.

Mae “dirfawr angen” cymorth ar 5.6 miliwn o bobol ar draws 1,244 o gymunedau, gan gynnwys 2.9 miliwn o bobol mewn ardaloedd anghysbell neu anodd eu cyrraedd.

Yn ôl amodau’r cadoediad, fe fydd hawl i barhau i ymosod ar eithafwyr Islamaidd ar ôl i 22 o bobol gael eu lladd yn Namascus yn dilyn cyrchoedd awyr.

Cefnogaeth Rwsia i Syria

Mae Rwsia’n un o gynghreiriaid agosaf Arlywydd Syria, Bashar Assad ers saith mlynedd ac yn 2015, fe geision nhw ei helpu i ddal ei afael ar ei arweinyddiaeth.

Mae gwrthryfelwyr Syria’n honni bod Rwsia’n helpu lluoedd yr Arlywydd i fomio Damascus, lle mae prinder adnoddau dyngarol.

Mae’r gwrthryfelwyr yn honni bod Syria wedi defnyddio bomiau ffosfforaidd wrth ymosod o’r awyr.