Mae naw o blant wedi cael eu taro gan gar a’u lladd yn nwyrain India.

Roedd gyrrwr y cerbyd yn ceisio ffoi ar ôl taro i mewn i griw o blant.

Cafodd 10 o blant anafiadau yn y digwyddiad ar gyrion tref Muzzafarpur yn nhalaith Bihar.

Cafodd dwy ferch eu taro yn y gwrthdrawiad cyntaf, ac fe gafodd y gweddill eu taro wrth adael yr ysgol.

Mae’r holl blant rhwng 10 a 14 oed, ac mae rhai ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Mae mwy na 110,000 o bobol yn cael eu lladd ar y ffyrdd yn India bob blwyddyn ac mae nifer o resymau am hynny, gan gynnwys cyflwr y ffyrdd, safonau gyrru a hen gerbydau.