Mae Donald Trump wedi dweud y gallai rhoi gynnau i athrawon atal rhagor o ymosodiadau rhag digwydd yn America.

Yn ôl yr Arlywydd, gallai arfogi canran o athrawon y wlad stopio rhywun sy’n ymosod ar ysgol â gwn “yn gyflym iawn”. Roedd yn cwrdd â’r sawl a oroesodd yr ymosodiad ar ysgol yn Fflorida yr wythnos hon – ymosodiad a laddodd 17 o bobol – ynghyd â theuluoedd dioddefwyr ymosodiadau diweddar eraill.

Mae Donald Trump wedi dweud hefyd y bydd yn sicrhau bod mwy o wiriadau’n cael eu gwneud ar bobol sydd eisiau prynu gwn.

“Os byddai gennych athro oedd yn gallu defnyddio arfau, gallan nhw ddod â’r ymosodiad i ben yn gyflym iawn,” meddai.

Dyma’r cynnig sy’n cael ei gefnogi gan y National Rifle Association [NRA] yn America, sy’n bwerus iawn wrth lobïo Llywodraeth yr Unol Daleithiau ar ynnau.

Yn y cyfarfod nos Fercher, fe wnaeth Donald Trump addo i’r goroeswyr a’r dioddefwyr y bydd yn gwneud newidiadau a ddim yn “siarad fel sydd wedi bod yn y gorffennol.”