Mae cyn-Aelod Seneddol o Gatalwnia wedi gwrthod mynd i’r llys ym Madrid heddiw, lle mae hi’n wynebu cyhuddiadau am ei rhan yn y refferendwm annibyniaeth fis Hydref y llynedd.

Yn ôl Anna Gabriel, mae’r awdurdodau’n ceisio ei herlyn am resymau gwleidyddol, a hynny am fod Sbaen yn ystyried y refferendwm yn un anghyfreithlon. Mae’r cyn-Aelod Seneddol tros blaid CUP yn mynnu na fyddai hi’n cael gwrandawiad teg.

Fe fu nifer o wleidyddion Catalwnia, gan gynnwys y cyn-Arlywydd Carles Puigdemont, yn y carchar am eu rhan hwythau yn y refferendwm. Mae Puigdemont bellach yn alltud ym Mrwsel.

Mae Anna Gabriel yn wynebu cyhuddiadau o wrthryfela ac o annog gwrthryfel, ac mae hi’n gwrthwynebu unrhyw ymgais i’w hestraddodi gan y byddai rhesymau gwleidyddol am wneud y fath gais.

Carles Puigdemont

Mae’r penderfyniad i ryddhau Carles Puigdemont hefyd yn ei gwneud yn annhebygol y byddai yna ymgais i’w hestraddodi bellach.

Dywedodd hi wrth bapur newydd Le Temps fod awdurdodau Sbaen yn ceisio ei “herlid” a bod y wasg eisoes wedi ei “chael yn euog”, er ei bod hi “wedi gweithredu’n heddychlon erioed”.

Ychwanegodd fod “rhaid datrys cwestiwn Catalwnia mewn modd gwleidyddol”.

Mae 900 o bobol yn destun ymchwiliad yn dilyn y refferendwm annibyniaeth.