Mae myfyrwyr o’r ysgol lle digwyddodd cyflafan yn Fflorida a laddodd 17 o bobol yn galw am weithredu er mwyn atal ymosodiad arall o’r fath.

Dydi’r ddeddfwriaeth sydd wedi’i chyflwyno’n ddiweddar ddim yn cynnwys y gynnau reiffl a gafodd eu defnyddio gan y saethwr Nickolas Cruz yn ddiweddar.

Mae lle i gredu bod gan 1.3 miliwn o bobol drwyddedau cudd i gludo gynnau.

Cafodd 17 o bobol eu lladd yn yr ymosodiad diweddaraf, ac fe aeth 100 o ddisgyblion o’r ysgol lle y digwyddodd, i adeiladau’r llywodraeth yn y dalaith.

Gwaharddiad

Galwodd cynrychiolydd o’r Democratiaid am wahardd gynnau mawr, yn gynnwys reifflau, ac roedd y cais eisoes wedi bod gerbron tri phwyllgor.

Ond fe gafodd ei wrthod yn y pen draw gan y Gweriniaethwyr, oedd yn beirniadu’r Democratiaid am roi’r cynnig gerbron.

Fydd y pwyllgor ddim yn cyfarfod eto cyn diwedd y sesiwn seneddol ar Fawrth 9 ac felly, mae’n annhebygol y bydd pleidlais yn cael ei chynnal. Mae’r Gweriniaethwyr yn galw am fwy o drafod cyn gwneud penderfyniad.

Ond mae ymgyrchwyr wedi eu cyhuddo o “fethu â gwrando”, er bod Gweriniaethwyr i’w gweld yn gefnogol i godi’r oedran y gall rhywun berchen ar ddryll.

Fe allai’r mater gael cryn ddylanwad ar etholiadau fis nesaf.