Mae tua 100 o ddisgyblion o ysgol y lladdfa yn Florida ar eu ffordd i brifddinas y dalaith i alw am newidiadau sylfaenol i gyfreithiau gynnau yno.

Fe fyddan nhw’n cynnal rali er mwyn rhoi pwysau ar Senedd y Dalaith, sydd dan reolaeth y blaid Weriniaethol.

Ar ôl ymweld â’r ysgol wedi’r saethu a gweld lle cafodd 17 o bobol eu lladd gan lanc 18 oed, mae rhai gwleidyddion Gweriniaethol wedi awgrymu y bydden nhw’n fodlon ystyried newid.

Mae’r disgyblion o Ysgol Uwchradd Marjory Stoneman Douglas hefyd wedi dweud y byddan nhw’n rhoi pwysau ar Gyngres yn Washington.

Y dadlau

Fe fu cannoedd o bobol yn protestio mewn parc yn Los Angeles ddoe, yn enwedig i gael archwiliadau mwy trylwyr o bawb sy’n cael yr hawl i fod yn berchen ar wn.

Mae darpar Lywydd Senedd Florida wedi awgrymu pecyn a fyddai’n rhwystro neb dan 21 oed i brynu gwn a chyfnod o oedi cyn gallu prynu.

Yn ôl un o’r Democratiaid, mae hynny’n jôc: “Ddylai’r un person yn Florida allu prynu arf ymosod,” meddai’r Seneddwr Gary Farmer.