Mae daeargryn yn mesur 5.9 wedi taro’r rhanbarth, Oaxaca, yn ne Mecsico, ddyddiau yn unig ar ôl i un hyd yn oed yn fwy pwerus daro’r un ardal, yn ôl Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau.

Digwyddodd y daeargryn toc cyn 7yb heddiw, gyda’i ganolbwynt tua 20 milltir i’r gogledd-ddwyrain o’r dref, Santa Catarina Mehoacan.

Dim ond ddydd Gwener fe wnaeth ddaeargryn arall yn  mesur 7.2 daro ardaloedd yn ne’r wlad, ac mae lle i gredu bod 13 o bobol wedi’u lladd yn sgil damwain a oedd yn cynnwys hofrennydd a gafodd ei anfon i asesu unrhyw ddifrod.

Roedd canolbwynt y daeargryn hwnnw ddim ymhell o’r un diweddaraf.